|
Bar Hatters a’r Bwyty mewn steil Bistro

Hatters Bar &
Bistro Lleolir The Park Hotel ar odre’r Mynydd DU, ond mae’n agos at Y Fenni, Abaty Llanddewi Nant Hodni, Clawdd Offa a Phandy.
Bar ddewislen
 |
|
Bar Hatters a’r Bwyty mewn steil Bistro –
Mae’r rhain y tu mewn i The Park Hotel wedi eu hadnewyddu yn ddiweddar ac yn cyfuno’r hen a’r newydd. Mae Bar Hatters lle gallwch gael diodydd cyn cinio yn dal i gynnwys y lle tân gwreiddiol gyda phaneli derw ac yma gweinir cwrw Cymreig a Seisnig wedi ei fragu yn lleol.
Mae bwyty Hatters ar steil Bistro yn llawn golau ac yn fodern iawn gyda golygfeydd o Fynydd Hatterall ac mae’n lleoliad hynod o ddymunol.
Mae’r bwyty ar agor o ganol dydd ac yn gweini cuisine rhyngwladol yn cynnwys y cynhwysion mwyaf ffres ac o’r ansawdd uchaf oddi wrth gyflenwyr lleol fel Vin Sullivan’s.
|
|
|
 |
|
Gellir canfod seigiau Awstraidd ac Almaenaidd ynghyd â stecen o gig eidion a chig oen Cymru gyda rhywbeth sy’n sicr o blesio pawb. Mae’r lle yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn croesawu teuluoedd.
Gyda’n staff hyfryd yn edrych ar ôl eich holl anghenion, gallwch fod yn sicr o gael profiad bwyta dymunol ac unigryw bob tro y dewch i ymweld â’r lle.
Darperir ar gyfer gofynion deiet arbennig pan wneir cais am hynny ac mae dewis helaeth o fwyd llysieuol ar gael ar y fwydlen.
|
Yr Ardd Gwrw –
Mae gardd daclus y Park Hotel yn llawn blodau, coed a bywyd gwyllt ac yn lle delfrydol i ymlacio ar ddiwrnod braf o haf neu ar fin nos.
Mwynhewch ddiod oer a phryd ysgafn gyda’ch teulu a’ch anwyliaid. Mae croeso i gŵn hefyd.
Gyda golygfeydd gwych o’r Mynyddoedd Duon, mae gan ein gardd heulog fwrdd a chadeiriau ar y patio a llawer o nodweddion gwreiddiol yr hen dŷ sy’n dyddio yn ôl i’r ddeunawfed ganrif.
|
|
|
|
|